Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (219) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 14.27
NDM5588 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru);
(ii) Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyllideb Ddrafft 2015-16
Dechreuodd yr eitem am 14.28
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol
Dechreuodd yr eitem am 15.10
5 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Swyddogion Cymorth Cymunedol – Flwyddyn yn Ddiweddarach
Dechreuodd yr eitem am 15.47
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd mewn perthynas â darpariaethau sy'n ymwneud â'r drosedd o gam-drin neu esgeulustod bwriadol gan weithwyr gofal
Dechreuodd yr eitem am 16.05
NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod bwriadol neu gamdriniaeth gan ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 16.08
NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a
gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;
b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac
c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
7 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid datganoli trwyddedu
radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
7 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl y mae
darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu
cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael
ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o
fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth
cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o
fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad mewn
rhaglennu lleol ar radio masnachol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.
2. Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.
3. Yn credu:
a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;
b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac
c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.
4. Yn credu y dylid datganoli trwyddedu radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5. Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.
6. Yn cydnabod y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
7. Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
8. Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.
9. Yn gresynu at y dirywiad mewn rhaglennu lleol ar radio masnachol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
7 |
0 |
40 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Daeth y cyfarfod i ben am 16.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Hydref 2014